Mae 13 o bobol wedi marw wedi i gwch llawn twristiaid suddo yn yr Unol Daleithiau.

Digwyddodd y ddamwain ar Lyn Table Rock, Missouri, ynghanol tywydd stormus, ac mae’n debyg bod pedwar o bobol ar goll o hyd.

Yn ôl yr awdurdodau, mae babanod a phobol hŷn ymhlith y meirw.

Mae 14 o bobol a oedd ar fwrdd y cwch wedi goroesi’r damwain, ac mae pedwar o’r rheiny wedi’u hanafu.

Mae Llyn Table Rock wedi’i leoli ger Branson – dinas sy’n denu llawer o dwristiaid i fwynhau ei ffeiriau a pherfformiadau byw.