Mae cwmwl tros y Gemau Olympaidd nesaf yn 2020, a hynny oherwydd y tywydd poeth yno.

Mae trigolion Tokyo yn amau doethineb y penderfyniad i gynnal y Gemau ym misoedd Gorffennaf ac Awst yn 2020.

Yr wythnos hon mae naw o bobol wedi marw a miloedd wedi eu cludo i’r ysbyty wrth i wres llethol 40C daro canol Japan.

Bu yn rhaid i’r gwasanaethau brys yn Tokyo ymateb i fwy na 3,000 o alwadau brys, ac fe gludwyd 317 o bobol i’r ysbyty.

Bydd y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal yn 2020 rhwng Gorffennaf 24 ac Awst 9, cyfnod pan mae’r tymheredd yn gallu bod yn uwch na 35C.

Yn ôl arbenigwyr mae perygl o fynd yn sâl mewn gwres mor llethol, ac mae disgwyl y bydd yr Olympics yn cael eu cynnal dan amodau pan mae athletau a chwaraeon fel arfer yn cael eu gohirio.

Tokyo 1964

Pan ddaeth y Gemau Olympaidd i Tokyo yn 1964 fe gawson nhw eu cynnal ym mis Hydref, yn bennaf er mwyn osgoi tywydd poeth yr Haf.

Ond ers hynny daeth yr Olympics yn beiriant gwneud pres ac mae cytundebau teledu yn penderfynu’r amserlen.

Mae’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol yn cydnabod y bydd “gwres eithafol” yn heriol i’r trefnwyr.

Eisoes mae’r Pwyllgor wedi rhoi caniatâd i gynnal y marathon yn gynnar yn y bore, er mwyn osgoi gwres llethol canol dydd.

Hefyd mae’r Llywodraeth am blannu coed talach ar hyd y ffyrdd, er mwyn cysgodi’r rhedwyr.