Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi gwneud sylw awgrymog arall am effeitholrwydd NATO, gan holi a fyddai cytundeb y gynghrair yn caniatau i bobol “ymosodol iawn” Montenegro ddechrau Trydydd Rhyfel Byd.

Gwnaeth Donald Trump y sylwadau mewn cyfweliad gyda Tucker Carlson o sianel newyddion Fox News, ar ôl yr uwchgynhadledd Helsinki gyda Vladimir Putin.

Roedd yn trafod NATO pan gafodd ei holi pam y dylai fod yn rhaid amddiffyn Montenegro os y daw dan ymosodiad. Codwyd gwrychyn Rwsia pan ymunodd Montenegro â’r gynghrair yn 2017.

Atebodd Donald Trump ei fod yntau wedi gofyn yr un cwestiwn, a dywedodd bod Montenegro “yn ymosodol” ac y gallai ddechrau “Trydydd Rhyfel Byd”.