Mae wedi’i chlustnodi fel “yr aderyn heddwch”, a hi yw’r awyren fasnachol gyntaf i hedfan rhwng Ethiopia ac Eritrea ers i wleidyddion ddod â’r rhyfel 20 mlynedd rhwng y ddwy wlad i ben.

Fe gyhoeddodd gweinidog gwybodaeth Eritrea fod hediad Ethiopian Airlines wedi cyrraedd y brifddinas, Asmara, a’i bod wedi derbyn croeso cynnes carped coch a baneri’r ddwy wlad yn cyhwfan.

Roedd cannoedd o deithwyr ar fwrdd yr awyren, yn cynnwys pobol sy’n ceisio ail-gysylltu ag aelodau o’u teuluoedd.

Roedd cyn-brif weinidog Ethiopia, Hailemariam Desalegn, hefyd ar yr awyren, ac fe gafodd ei groesawu gan weinidog tramor Eritrea ar ol cyrraedd.