Neil Kinnock
Mae merch-yng-nghyfraith Neil Kinnock wedi gwneud yn well nag ef, a chael ei hethol yn Brif Weinidog.

Fel Margaret Thatcher yn 1979 ym Mhrydain, Helle Thorning-Schmidt yw’r ddynes gynta’ i gael ei hethol yn Brif Weinidog Denmarc.

Mae’r fam 44 oed sy’n briod â mab Neil Kinnock yn arwain plaid y Democratiaid Cymdeithasol, sydd i’r chwith o’r canol.

Yn 1996 mi briododd hi Stephen Kinnock ar ôl ei gyfarfod yng Ngwlad Belg.

Mae’n byw gyda’i dwy ferch Johanna, 14, a Camilla, 11, yng ngogledd Copenhagen, tra mae ei gŵr yn gyfarwyddwr Fforwm Economaidd y Byd yn y Swistir.