Mae mudiad dyngarol wedi cyhuddo gwylwyr y glannau yn Libya o esgeuluso ffoaduriaid ar ôl i ddynes a phlentyn bach farw yn y Môr Canoldir.
Bu farw’r ddau ar ôl i gychod oedd yn cludo 160 o ffoaduriaid gael eu rhyng-gipio oddi ar arfordir y wlad yng ngogledd Affrica.
Cafodd awdurdodau Sbaen hyd i ddynes yn fyw ddydd Mawrth, ac un arall wedi marw, ynghyd â chorff plentyn bach pan ddaethon nhw o hyd i weddillion cwch 80 milltir i ffwrdd o arfordir Libya.
Cafodd fideos a lluniau’r cwch a’r cyrff eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â’r cyhuddiad yn erbyn yr awdurdodau.
Yn gynharach, dywedodd gwylwyr y glannau fod cwch yn cludo 158 o ffoaduriaid – gan gynnwys 34 o fenywod a phlant – wedi cael ei stopio ddydd Llun.
Cafodd y ffoaduriaid gymorth dyngarol a chymorth meddygol, meddai llefarydd, cyn mynd â nhw i wersyll.
Mae llywodraeth yr Eidal wedi cael y bai am farwolaeth y ddynes a’r plentyn am iddyn nhw fethu â chynnig cymorth i ffoaduriaid. Daeth y neges honno mewn fideo ar Twitter.
Mae’r Eidal a Melita wedi atal grwpiau dyngarol rhag achub ffoaduriaid o’r môr, sy’n golygu bod niferoedd uchel yn teithio i Sbaen – 18,016 hyd at Orffennaf 15.
Mae mwy o ffoaduriaid bellach yn teithio i Roeg hefyd.