Mae o leia’ 15 o bobol wedi cael eu lladd ym Mhacistan ar ôl i lori daro bws a oedd yn cludo gwestai priodas.
Bu’r damwain ar ffordd brysur yn nhre’ Matiarai yn nhalaith ddeheuol Sindh, nid nepell o ddinas Hyderabad.
Mae’r awdurdodau’n dweud bod 17 person arall wedi’u hanafu yn dilyn y digwyddiad, gyda rhai ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.
Mae lle i gredu bod y ddamwain wedi digwydd o ganlyniad i esgeulustod ar ran gyrrwr y lori.
Mae damweiniau traffig yn gyffredin iawn ym Mhacistan, gyda phrif ffyrdd mewn cyflwr gwael a rheolau diogelwch yn cael eu hanwybyddu.