Mae Tsieina wedi cyflwyno cais i Sefydliad Masnach y Byd yn herio cynlluniau’r Unol Daleithiau i gynyddu tollau ar werth $200bn o nwyddau Tsieina.

Dyma’r bennod ddiweddara’ yn y rhyfel masnach rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina, wrth i’r ddwy wlad gynyddu tollau ar nwyddau ei gilydd.

Daw’r cais llai nag wythnos ar ôl i Asiantaeth Fasnach yr Unol Daleithiau gyhoeddi cynllun tollau newydd, na fydd yn dod i rym tan o leia’ mis Medi.

Bwriad y cynllun, yn ôl yr asiantaeth, yw ymateb i benderfyniad Tsieina i gynyddu tollau ar nifer o nwyddau’r Unol Daleithiau, a hynny ar ôl i’r wlad honno gyflwyno cyfres o dollau ddechrau’r flwyddyn.

Ar hyn o bryd, dyw datganiad Llywodraeth Tsieina i Sefydliad Masnach y Byd ddim yn cynnwys tystiolaeth ar gyfer her gyfreithiol nac unrhyw wybodaeth arall.

Mae’r wlad wedi ceisio ennyn cefnogaeth gwledydd eraill o Ewrop, De Corea a phartneriaid masnach eraill, ond heb fawr o lwyddiant hyd yn hyn.