Mae’r grŵp pop ffeministaidd Pussy Riot wedi hawlio cyfrifoldeb am brotest yn ystod rownd derfynol Cwpan y Byd ym Mosgo.

Llwyddodd pedwar o bobol i gyrraedd y cae ar ôl 50 munud o’r gêm bêl-droed rhwng Croatia a Ffrainc yn Stadiwm Luzhniki. Aeth un ohonyn nhw mor bell â’r cylch canol.

Cawson nhw eu hebrwng o’r cae gan swyddogion diogelwch wrth i’r dyfarnwr ddod â’r gêm i ben am ryw funud.

Daeth Pussy Riot i amlygrwydd wrth feirniadu Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin yn 2012. Cafodd dau aelod eu carcharu am bron i ddwy flynedd o ganlyniad.

Cefndir

Mewn datganiad ar eu tudalen Twitter, dywedodd y protestwyr eu bod nhw’n galw am ryddhau carcharorion Rwsiaidd, ac am derfyn ar arestio protestwyr, yn ogystal â chystadleuaeth mewn etholiadau cyffredinol yn y wlad.

Fe gyfeirion nhw at achos Oleg Sentsov, un o wrthwynebwyr chwyrn ymdriniaeth Rwsia o’r Crimea. Fe gafodd ei garcharu yn 2015 am hyd at ugain mlynedd am gynllwynio i weithredu’n frawychol.

Daw’r brotest ddiwrnod yn unig cyn i Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin gyfarfod ag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn Helsinki.

Roedd Vladimir Putin yn y stadiwm yn gwylio’r gêm.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a wnaeth y protestwyr, oedd wedi’u gwisgo yng ngwisg yr heddlu, gerdded i mewn i’r stadiwm yn eu gwisg.

Maen nhw yn y ddalfa ar hyn o bryd.