Mae cynlluniau ar y gweill i ddiwygio Cyfansoddiad Ciwba, gan gynnwys creu swydd prif weinidog i gydweithio â’r arlywydd.

Ymhlith y cynlluniau eraill mae diwygio’r llywodraeth, y llysoedd a’r economi.

Ac mae disgwyl i’r Comiwnyddion barhau’n brif blaid y wlad.

Fe fydd y Cyfansoddiad newydd yn cydnabod y farchnad rydd ac eiddo preifat, ac yn creu’r egwyddor fod troseddwr honedig yn ddieuog tan i’r llysoedd brofi i’r gwrthwyneb.

Mae disgwyl i gynulliad cenedlaethol y wlad gymeradwyo’r cynlluniau’n ddiweddarach y mis hwn.

Yn ôl gwleidyddion y wlad, dydy’r Cyfansoddiad presennol, a gafodd ei gyflwyno yn 1976, ddim yn adlewyrchu’r wlad fel ag y mae heddiw.