Mae’r 12 o fechgyn a’u hyfforddwr pêl-droed a gafodd eu caethiwo mewn ogof yng Ngwlad Thai yn gwella’n dda ac wedi anfon neges fideo o’r ysbyty.

Dywed gweinidog iechyd y wlad fod disgwyl iddyn nhw gael mynd adref ddydd Iau nesaf.

Mae’r fideo yn dangos y bechgyn i gyd mewn hwyliau da, gyda phawb yn diolch am bob help a chefnogaeth maen nhw wedi’i gael.

Maen nhw’n dal i wisgo masgiau llawfeddygol i helpu eu gwarchod rhag heintiau. Dywed meddygon fod rhai ohonyn nhw’n dioddef mân heintiau ysgyfaint a chlust ar y dechrau, ond bod y rhain wedi clirio bellach.