Mae 12 o ysbïwyr o Rwsia wedi cael eu cyhuddo o hacio anghyfreithlon yn etholiad arlywyddol America yn 2016.
Yn ôl Adran Gyfiawnder llywodraeth yr Unol Daleithiau, roedd hacio ymgyrch Hillary Clinton yn yr etholiad yn ymgais fwriadol gan lywodraeth dramor i ymyrryd yng ngwleidyddiaeth America.
Dyma’r tro cyntaf i lywodraeth Rwsia gael ei chyhuddo’n uniongyrchol o geisio tanseilio Hillary Clinton er mwyn helpu ymgyrch Donald Trump.
Ar ôl i’r cyhuddiadau gael eu cyhoeddi ddoe, dydd Gwener, galwodd arweinydd y Democratiaid yn senedd America, Chuck Schumer, ar Donald Trump i ganslo ei gyfarfod gyda Vladimir Putin ddechrau’r wythnos nesaf.
“Mae’r cyhuddiadau yn brawf pellach o’r hyn mae pawb ond yr arlywydd yn ei ddeall: sef bod yr Arlywydd Putin yn elyn a ymyrrodd yn ein hetholiadau i helpu’r Arlywydd Trump i ennill,” meddai.