Mae’n bosib bod darn o garreg a gafodd ei ddarganfod yn ne gwlad Groeg yn cynnwys y fersiwn hyna’ o’r gerdd ‘Odyssey’ gan Homer, yn ôl swyddogion.

Mae’r weinyddiaeth diwylliant yn y wlad yn credu lle bod y garreg, sy’n cynnwys 13 pennill o’r gerdd enwog, yn dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid – o bosib cyn y drydedd ganrif.

Mi gafodd y garreg ei darganfod gan archeolegwyr  ger Olympia, sy’n cael ei adnabod yn gartre’ i’r Gemau Olympaidd gwreiddiol.

Mi gafodd y gemau eu cynnal yn yr ardal hon yn ne’r wlad rhwng 776 CC a 393 OC.

Odyssey?

Mae Odyssey a gafodd ei chreu gan y bardd a’r athronydd Homer yn un o gerddi enwoca’ byd, ac mae arbenigwyr yn credu ei fod wedi ymddangos yn gyntaf yn yr wythfed ganrif CC.

Mae’n adrodd hanes yr arwr Groegaidd, Oysseus, a’i daith ddeng mlynedd i gyrraedd adre’ o’r rhyfeloedd Trojaidd.

Mae’r gerdd yn cyfeirio at frwydrau gyda angenfilod, gwrachod a nifer o elynion eraill wrth iddo geisio ailymuno a’i wraig, Penelope a’i fab, Telemachus, ar ynys Ithaca.