Mae pryderon, ar drothwy uwchgynhadledd NATO, y gallai’r Unol Daleithiau gefnu ar y corff tros ddiffyg ymrwymiad honedig rhai o’r gwledydd i weithrediadau amddiffyn.

Mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May gyhoeddi y bydd 440 o filwyr ychwanegol yn cael eu hanfon i Afghanistan yn dilyn pwysau gan yr Arlywydd Donald Trump.

Ar drothwy’r uwchgynhadledd ddeuddydd ym Mrwsel, sy’n dechrau heddiw, fe wnaeth Donald Trump droi at Twitter i fynegi ei bryderon.

Mae’n dweud bod gwariant yr Unol Daleithiau ar amddiffyn – sy’n fwy na gwariant rhai o wledydd eraill NATO – yn “annheg ar drethdalwyr” y wlad, cyn ychwanegu fod “rhaid i wledydd NATO dalu MWY, a rhaid i’r Unol Daleithiau dalu LLAI.”

‘Nerfusrwydd’

Mae’n debygol y bydd ei sylwadau’n achosi nerfusrwydd ymhlith gwledydd NATO am ymrwymiad yr Arlywydd Donald Trump i’r gynghrair, ar ôl i uwchgynhadledd G7 orffen mewn ffrae ym mis Mehefin.

Ond mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn mynnu bod ei llywodraeth wedi cyrraedd y nod o wario 2% o GDP ar amddiffyn.

Dywedodd fod Prydain yn “arwain drwy esiampl” drwy fod ymhlith y cyntaf i “ateb” galwadau NATO am gymorth.