Mae tri o bobol yn yr ysbyty ar ôl cael eu hanafu gan deirw yn ystod digwyddiad blynyddol yn Pamplona.

Cafodd dau o bobol gleisiau ar eu breichiau, a chafodd un arall anafiadau i’w wyneb yng ngŵyl San Fermin, lle mae rasys teirw yn cael eu cynnal.

Ar ôl y ras 930 llath, mae’r teirw’n cael eu lladd gan fatador.

Bob blwyddyn, mae miloedd o bobol yn heidio i wylio’r rasys, sy’n para rhai munudau’n unig.