Mae’r ymdrech i achub grŵp o fechgyn a’u hyfforddwr pêl-droed sy’n sownd mewn ogof yng Ngwlad Thai, yn parhau heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 10).

Mae dros bythefnos bellach ers i’r 12 bachgen a’u hyfforddwr fynd yn sownd mewn ogof yn nhalaith Chiang Rai yng ngogledd y wlad.

Mae’r ymdrech i’w hachub bellach wedi cyrraedd y trydydd diwrnod, ac mae deifwyr proffesiynol yn gobeithio achub y pedwar bachgen sy’n weddill heddiw.

Mae’r awdurdodau yn dweud y bydd y pedwar swyddog, sydd wedi bod yn gofalu am y bechgyn o fewn yr ogof, yn dychwelyd i’r arwyneb heddiw hefyd.

Iechyd y bechgyn

Erbyn hyn, mae wyth o’r bechgyn wedi cyrraedd yr arwyneb, ar ôl cael eu harwain trwy rwydwaith cymhleth o dwneli dros y ddau ddiwrnod diwetha’.

Yn ôl llefarydd ar ran Gweinyddiaeth Iechyd Cyhoeddus Gwlad Thai, mae’r pedwar bachgen cynta’ a gafodd eu hachub bellach wedi cychwyn bwyta yn normal.

Ond er yr amheuon bod dau o’r bechgyn yn diodde’ o haint ar yr ysgyfaint, mae’r llefarydd yn mynnu bod yr wyth ar y cyfan yn “holliach ac yn gwenu”.

Mae’n bosib y bydd rhaid i’r bechgyn aros yn yr ysbyty am y saith diwrnod nesa’.