Mae pedwar o fechgyn a oedd yn sownd mewn ogof yng Ngwlad Thai, wedi cael eu hachub, yn ôl swyddogion o lynges y wlad.

Fe gafodd pedwar bachgen eu cludo i’r wyneb ddoe (dydd Sul, Gorffennaf 8), a hynny mwy na phythefnos ar ôl iddyn nhw fynd yn sownd mewn ogof ddofn yng ngogledd y wlad.

Ond erbyn hyn, fe ddaeth cadarnhad gan Lynges Gwlad Thai fod pedwar bachgen arall wedi cael eu hachub, gydag aelodau o’r tîm achub wedi’u harwain trwy’r rhwydwaith cymhleth o dwneli.

Roedd yr ymdrech i achub y 12 bachgen a’u hyfforddwr pêl-droed wedi cael ei ohirio dros nos, er mwyn newid y tanciau aer.

Fe wnaeth y tîm achub benderfynu parhau â’r ymdrech heddiw oherwydd ofnau y byddai lefel y dŵr yn yr ogof yn codi, a hynny ar ôl i law trwm syrthio ar yr ardal trwy gydol y nos.