Mae storm drofannol ‘Beryl’ yn anelu am grwp o ynysoedd wrth y fynedfa ddwyreiniol i’r Mor Caribi.

Mae’r trigolion – a gafodd eu taro’n galed y llynedd gan stormydd – wedi bod allan yn prynu digon o fwyd a dwr, rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd.

Mae rhybudd storm drofannol wedi’i gyhoeddi yn Guadeloupe a Dominica, tra bod rhybuddion llai hefyd ar waith yn Martinique, St Martin a St Barts, yn ogystal â St Maarten, Barbados, St Lucia, Saba a St Eustatius.

Mae Puerto Rico, a gafodd ei rheibio gan gorwynt Maria ym mis Medi y llynedd, yn dal i fod mewn stad o argyfwng.