Mae Twrci wedi diswyddo miloedd o weision sifil oherwydd eu cysylltiadau honedig â grwpiau brawychol.

Dan orchymyn arbennig a gyheoddwyd heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 8) mae 18,632 o bobol – yn cynnwys 9,000 o blismyn, 6,000 aelod o’r fyddin a channoedd o athrawon ac academwyr – wedi colli’u gwaith.

Fe fydd pasbortau pob un yn cael eu dileu hefyd.

Mae Twrci wedi cyhoeddi stad o argyfwng ers dwy flynedd, wedi ymgais i ddisodli’r llywodraeth yno ym mis Gorffennaf 2016.

Mae’r llywodraeth yn rhoi’r bai ar glerigwr sy’n byw yn America am yysgogi’r digwyddiadau ddwy flynedd yn ol, ac mae wedi arestio pobol sydd â chysylltiadau ag o. Mae’r clerigwr. Fethullah Gulen, yn gwadu’r honiadau yn ei erbyn.