Mae glaw trwm yn Japan wedi achosi llifogydd a thirlithriadau, gan adael o leia’ tri yn farw a nifer ar goll.

Yn ôl Asiantaeth Feteorolegol Japan, mae’r lefel o law trwm sydd wedi syrthio ar y wlad gyda’r ucha’ mewn hanes, ac mae disgwyl rhagor dros y penwythnos.

Mae’r awdurdodau eisoes wedi cadarnhau bod o leia’ tri wedi cael eu golchi i ffwrdd gan lifogydd, cyn cael eu darganfod yn ddiweddarach yn farw.

Mae naw o bobol wedi mynd ar goll yn Hiroshima hefyd, ar ôl iddyn nhw gael eu claddu o dan dirlithriad.

Mae tua 210,000 o bobol hyd yn hyn wedi gorfod ffoi o’u cartrefi yn y wlad.