David Cameron - rhaid gorffen y gwaith
Mae Prif Weinidog Prydain wedi dweud bod rhaid gorffen y gwaith o guro milwyr y Cyrnol Gaddafi yn Libya a chael gafael arno.

David Cameron ac Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, yw’r ddau arweinydd gorllewinol cynta’ i ymweld â’r wlad yng ngogledd Affrica ers i Gaddafi gael ei ddiorseddu.

Roedden nhw’n cwrdd ag arweinwyr y Cyngor Trawsnewid Tros Dro, gyda David Cameron yn dweud ei fod yn falch o ran gwledydd Prydain yn y gwaith o guro’r Cyrnol.

‘Argraff fawr’

“Mae’r hyn yr ydw i wedi ei weld wedi gwneud argraff anferth arna’ i,” meddai David Cameronyn y brifddinas, Tripoli. “Dw i’n falch iawn o fod yma ac yn falch iawn o rôl Prydain.”

Ond fe rybuddiodd bod y cyn arweinydd yn parhau’n rhydd ac yn dal i ymladd ac fe ddywedodd wrth yr arweinwyr newydd bod rhaid iddyn nhw fod yn “hael a thrugarog heb ddial”.

Roedd ganddyn nhw’r cyfle, meddai, i ddangos i eraill beth oedd ystyr meddiannu eu gwlad eu hunain a throi’r gwanwyn Arabaidd yn haf.

Cyhoeddi rhagor o gymorth

Roedd yna nifer o gyhoeddiadau i gyd-daro â’r ymweliad, gyda rhagor o arian tramor Libya’n cael ei ryddhau at ddefnydd y llywodraeth newydd.

Fe fydd cymorth hefyd i glirio bomiau tir a dadgomisiynu arfau ac fe fydd rhai sydd wedi eu hanafu’n ddifrifol yn yr ymladd yn cael triniaeth mewn ysbytai yng ngwledydd Prydain.