Mae dinas Nantes wedi diodde’ ail noson o drais wedi i’r heddlu saethu gyrrwr yn farw wedi iddo geisio osgoi dangos ei bapurau i’r awdurdodau.

Fe fu protestwyr yn gwrthdaro â’r heddlu terfysg dros nos, gan losgi siopau a cheir. Mae un ar ddeg o bobol wedi eu dwyn i’r ddalfa mewn cysylltiad â’r trais.

Mae Prif Weinidog Ffrainc, Edouard Philippe, wedi condemnio’r cwffio, ac mae’n addo “ymchwilad cwbwl dryloyw” i amgylchiadau marwolaeth dyn 22 oed yn Nantes ddydd Mawrth (Gorffennaf 3).

Mae’r awdurdodau eisoes wedi dweud bod gwarant wedi’i chyhoeddi i arestio’r dyn ifanc, ond ei fod wedi cyflwyno papurau ffug i’r heddlu wrth geisio profi pwy ydoedd.

Mae gorymdaith dawel wedi’i threfnu at heno yn Nantes, i gofio amdano.