Mae llywodraeth India wedi gofyn i WhatsApp gymryd camau ar unwaith i atal lledaenu sibrydion a datganiadau anghyfrifol sy’n cael y bai am annog ymosodiadau gan gangiau yn y wlad.

Mae o leiaf 20 o bobol wedi cael eu lladd mewn pentrefi gwledig gan dorf a oedd wedi eu cythruddo’n llwyr gan ddatganiadau ar gyfryngau cymdeithasol.

Ymhlith y dioddefwyr oedd pobol ddiniwed a gyhuddwyd yn y negeseuon feiral o berthyn i gangiau sy’n ceisio cipio plant.

Mae gweinidog electroneg a thechnoleg gwybodaeth India yn dweud fod y lladd anghyfreithlon yn gysylltiedig â “negeseuon anghyfrifol a ffrwydrol” a rannwyd ar WhatsApp.