Mae Irac wedi gwahardd ei ffermwyr rhag plannu cnydau haf eleni gan fod yna brinder dŵr yn wlad, ac yn ôl arwyddion dyw’r prinder ddim yn mynd i ostegu.

Gan nodi tymheredd uchel a glaw annigonol, dywedodd Dhafer Abdalla, cynghorydd i Weinyddiaeth Adnoddau Dŵr Irac, fod gan y wlad digon o ddŵr i ddyfrhau ond hanner y tir fferm yr haf hwn.

Ond mae ffermwyr yn gweld bai ar y llywodraeth am fethu â moderneiddio sut y mae’n rheoli dŵr a dyfrhau, ac yn beio Twrci am atal afonydd Tigris ac Ewffrates y tu ôl i argaeau y maen nhw’n cadw eu hadeiladu.

Mae lefelau dŵr ar draws y ddwy afon hanfodol hyn wedi gostwng mwy na 60% mewn dau ddegawd, yn ôl adroddiad 2012 gan Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig.