Mae grŵp o fechgyn sy’n sownd mewn ogof yng Ngwlad Thai, wedi dweud eu bod yn iach.

Bellach mae’r bechgyn 11-16 oed – a’u hyfforddwr eu tîm pêl-droed – wedi  bod yn sownd yn ogof Tham Luang Nang Non am dros wythnos.

A gan fod y twneli tuag at yr arwyneb llawn dŵr, mae’n debygol y byddan nhw yno am gyfnod hir.

Mewn fideo a gafodd ei ffilmio gan blymwyr sy’n eu cynorthwyo, mae’r bechgyn i weld mewn hwyliau da a’n nodi eu bod yn iach.

Cafodd y grŵp eu darganfod gan blymwyr ddydd Llun (Gorffennaf 4) – roedd dau aelod o dîm achub yng Nghymru ymhlith y deifwyr – ac erbyn hyn mae meddygon wedi cyrraedd yr ogof.

Mae’r bechgyn wedi derbyn diodydd maethlon, ac mewn “cyflwr sefydlog” yn ôl awdurdodau.