Mae llosgfynydd Agung wedi ffrwydro, gan anfon lafa a chreigiau i lawr ei lethrau.

Mae ffrwydradau wedi’i clywed yn dod o’r mynydd ers yn hwyr neithiwr (nos Lun, Gorffennaf 2).

Mae afonydd o lafa chwilboeth wedi llifo 1.2 milltir o’r crater, gan gynnau tanau mewn coedwigoedd.

Mae bron i 700 o bobol wedi dianc am eu bywydau o bentref Banjar Galih, tua 3.7 milltir o’r mynydd, ac maen nhw’n cael eu cysgodi a’u bwydo mewn canolfan arbennig.

Dyma’r tro cyntaf i’r llosgfynydd ddeffro ers cyfnod ansefydlog y llynedd, pan y bu’n rhaid i ddegau o filoedd o bobol ffoi o’u cartrefi.

Mae’r mynydd ar hyn o bryd yn poeri lludw i’r awyr, ac mae hwnnw’n symud i gyfeiriad y gorllewin. Mae maes awyr yr ynys, sydd i’r de o’r llosgfynydd, yn dal i weithredu fel arfer.