Mae beth bynnag bump o bobol wedi’u hanafu wedi i ran o bont gerddwyr gwympo am ben rheilffordd yn ystod glaw mawr yn India.

Mae’r gwasanaethau brys wrth eu gwaith yng ngorsaf Andheri yn Mwmbai. Mae’r gwasanaeth wedi’i effeithio gan y digwyddiad, a ddigwyddodd am 7.30yb (amser lleol) fore Mawrth.

Fe syrthiodd rhannau o’r bont ar y trac, ond doedd yna ddim trenau yn pasio ar y pryd.

Mae pump o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty, ac mae’r awdurdodau yn gwybod fod o leiaf un arall yn sownd yn y rwbel.