Mae Taoiseach Iwerddon wedi rhybuddio Theresa May y bydd yn rhaid i Brydain gytuno ar ddyfodol ffin Gogledd Iwerddon erbyn mis Hydref.

“Dw i’n disgwyl i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd anfon neges gref i Brydain bod angen i’r trafodaethau ddwysáu,” meddai Leo Varadkar, a fydd yn cyfarfod aelodau o Gyngor Ewrop ym Mrwsel heddiw.

“Mae’r diffyg cynnydd yn y trafodaethau wedi bod yn siomedig iawn.

“Mae angen inni weld cynigion manwl gan Brydain ar sut y bydd yn cyflawni’r ymrwymiadau clir a wnaeth ym mis Rhagfyr a mis Mawrth.

“Ni fydd dim wedi ei gytuno hyd nes bydd popeth wedi’i gytuno.”