Mae Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau wedi cefnogi cynllun dadleuol yr Arlywydd Donald Trump i wahardd trigolion gwledydd Mwslimaidd rhag teithio i’r wlad.

Fe wfftiodd y llys yr awgrym fod targedu gwledydd Mwslimaidd yn gwahaniaethu yn eu herbyn a’i fod y tu allan i awdurdod yr Arlywydd.

Cafodd y cynllun ei gefnogi o bum pleidlais i bedwar – canlyniad a arweiniodd at “Wow!” gan yr Arlywydd ar ei dudalen Twitter, cyn ychwanegu ei bod yn “fuddugoliaeth fawr i bobol America a’r Cyfansoddiad”.

Mewn datganiad swyddogol, fe ychwanegodd fod y canlyniad yn benllanw “misoedd o sylwebaeth orffwyll gan y cyfryngau a gwleidyddion Democrataidd sy’n gwrthod gwneud yr hyn sydd rhaid er mwyn diogelu ein ffin a’n gwlad”.

Cofnodi’r canlyniad

Wrth gofnodi’r canlyniad yn y Goruchaf Lys, dywedodd y Prif Ustus John Roberts fod gan yr Arlywydd rym sylweddol i gadw trefn ar fewnfudwyr, ac fe wfftiodd yr awgrym fod y cynllun yn wrth-Fwslimaidd.

Ond fe wrthododd gefnogi sylwadau mwy cyffredinol yr Arlywydd am fewnfudwyr a Mwslimiaid.

Gwaharddiad

Fe fu gwaharddiad teithio yn ei le ers i’r Goruchaf Lys wrthod ei wyrdroi ym mis Rhagfyr, er i nifer o lysoedd farnu nad oedd yn gyfreithlon.

Mae’r gwaharddiad yn benodol ar gyfer trigolion o wledydd Iran, Libya, Somalia, Syria ac Yemen – gwledydd lle mae’r mwyafrif o bobol yn Fwslimaidd.

Ond mae hefyd yn gwahardd trigolion o Ogledd Corea a nifer o swyddogion llywodraeth Feneswela a’u teuluoedd.

Fe ddaeth y gwaharddiad cyntaf i rym yn fuan ar ôl i Donald Trump ddod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, ac fe gafodd ei addasu ddeufis yn ddiweddarach, fis Mawrth y llynedd.

Fe gafodd ei addasu eto fis Medi y llynedd yn dilyn “adolygiad trylwyr” sydd heb ei gyhoeddi hyd yn hyn. Fe gafodd ei wrthwynebu mewn nifer o daleithiau.