Mae un o fawrion y byd pêl-droed, Diego Maradona wedi cael ei feirniadu ar ôl codi ei fysedd canol ar gefnogwyr yn ystod gêm yng Nghwpan y Byd yn Rwsia.

Fe wnaeth hynny ar ôl i’r Ariannin sgorio’r gôl fuddugol yn erbyn Nigeria nos Fawrth. Enillodd yr Ariannin o 2-1.

Nid dyma’r tro cyntaf yn ystod y gystadleuaeth iddo ddwyn sylw am y rhesymau anghywir.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y newyddiadurwraig Jacqui Oatley iddo sarhau cefnogwyr De Corea drwy wneud ystumiau â’i lygaid.

Wrth ymateb i’r digwyddiad diweddaraf, dywedodd y cyflwynydd Gary Lineker fod ei weithred yn “chwerthinllyd”, ac fe ychwanegodd Dan Walker na ddylai’r camerâu dynnu sylw ato yn y dorf yn ystod gemau.

Iechyd

Roedd pryderon am ei iechyd ar ôl y gêm neithiwr, wrth iddo dderbyn triniaeth yn y stadiwm.

Roedd e’n sigledig ar ei draed wrth dderbyn cymorth i adael ei sedd ar ddiwedd y gêm, ac roedd lle i gredu iddo gael ei gludo i’r ysbyty – ond mae e wedi gwadu hynny.

Yn ôl y chwaraewr sy’n cael ei gofio am y gôl ‘Hand of God’ yn erbyn Lloegr, roedd ganddo fe boen yn ei wddf ac fe gafodd e driniaeth gan feddyg yn y fan a’r lle.