Mae pedwar aelod o’r un teulu wedi cael eu hanafu mewn ymosodiad gwn yn Hong Kong.

Brodyr a chwiorydd yw’r pedwarawd, a chawson nhw eu hanafu gan aelod arall o’u teulu yng nghanolfan siopa Quarry Bay Park.

Derbyniodd dau o’r unigolion anafiadau i’w pennau, a chafodd y ddau arall eu saethu yn eu breichiau.

Mae dynes bellach yn y ddalfa mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae rheolau llym mewn grym yn Hong Kong sy’n cyfyngu ar berchnogaeth gynnau tanio, ac mae achosion o saethu yno yn hynod o anarferol.