Mae protestwyr wedi tyrru i brif farchnad dinas Tehran yn Iran, wrth i anniddigrwydd gynyddu tuag at gyflwr gwael economi’r wlad.

Yn ôl y cyfryngau yn Iran, roedd protestwyr yn gorfodi perchnogion siopau i gau eu stondinau yn y Grand Bazzar yn y brifddinas.

Mae ambell fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos y protestwyr yn gweiddi “cachgwn” ar y rheiny a oedd yn gwrthod ufuddhau.

Ond mae llefarydd ar ran y Llywodraeth wedi dweud bod y protestiadau wedi tawelu erbyn hyn.

Problemau’r economi

Mae economi Iran yn wynebu tipyn o broblemau ar hyn o bryd, gyda’r rial wedi disgyn yn ei werth i 90,000 y dolar.

Mae’r problemau’n dwysáu hyd yn oed yn fwy wrth i nifer o gwmnïau rhyngwladol adael y wlad, a hynny ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, gyhoeddi ei fod yn gadael cytundeb niwclear Iran.

Mae nifer o brotestiadau wedi bod yn Iran dros y misoedd diwetha’, gyda rhai ar ddechrau’r flwyddyn yn gweld 25 o bobol yn cael eu lladd a 5,000 eu harestio.