Mae miloedd o bobol wedi gorfod ffoi o’u cartrefi wrth i danau ledaenu ar draws gogledd Califfornia.

Mae un o’r tanau, a gychwynnodd ddydd Sadwrn ger Clearlae Oaks, wedi dinistrio 12 o adeiladau a bygwth tua 600 yn ychwanegol, wrth iddo ymestyn dros 12 milltir sgwâr o dir.

Mae’r awdurdodau wedi gorchymyn pobol yn ardal Spring Valley, lle mae tua 3,000 yn byw, i adael eu cartrefi.

Mae’n debyg bod tân arall yn achosi trwbwl yn ardal Sir Tehema, sydd ymhellach i fyny yn y gogledd, gyda “nifer o gartrefi ac adeiladau” wedi’u dinistrio o’i herwydd.