Mae arlywyddiaeth Nigeria yn cael ei chyhuddo o ladd “degau o bobol ar draws nifer o gymunedau” yng nghanolbarth y wlad, wedi adroddiadau fod 86 o bobol wedi marw yn ystod gwrthdaro rhwng bugeiliaid Mwslimaidd a ffermwyr Cristnogol.

Mae’r arlywydd Muhammadu Buhari wedi apelio am heddwch, ac mae’r heddlu wedi ceisio rhoi diwedd ar y tywallt gwaed “hynod anffodus” yn nhalaith Plateau.

Dyw llywodraeth Nigeria ddim wedi cyhoeddi faint yn union o bobol sydd wedi’u lladd, ond mae sianel deledu talaith Plateau yn nodi mai 86 sydd wedi marw, gyda 50 o dai wedi’u dinistrio yn ystod y trais dros nos.