Mae’r bwrdd etholiadol yn Nhwrci wedi cyhoeddi bod Recep Tayyip Erdogan wedi’i ailethol yn arlywydd y wlad, gyda mwy o rymoedd yn dod i’w ran yn sgil hynny.

Fe gyhoeddodd y gŵr 64 oed ddydd Sul ei fod wedi sicrhau buddugoliaeth, ac mae canlyniadau answyddogol yn dweud iddo dderbyn dros 50% o’r pleidleisiau.

Roedd yr etholiad seneddol hefyd yn cael ei gynnal yr un pryd, ac fe lwyddodd Plaid Ddemocrataidd y Bobol (HDP), sy’n gefnogol i’r Cwrdiaid, i sicrhau llwyddiant hefyd, er gwaetha’r ffaith bod mwy na 350 o’i haelodau yn y carchar ers diwedd mis Ebrill.

Fe ddaeth Selahattin Demirtas, a oedd yn y ras am yr arlywyddiaeth ar ran y blaid, yn drydydd gyda 8.3% o’r bleidlais.

Mwy o rymoedd

Mae’r ddau etholiad yn dynodi newid mawr i ddemocratiaeth yn Nhwrci, wrth i’r wlad symud o system seneddol i system arlywyddol.

Mae buddugoliaeth i Recep Tayyip Erdogan yn golygu mwy o rymoedd iddo, gyda’r rheiny’n cynnwys mwy o afael gan yr arlywydd ar lywodraeth y wlad, wrth i swydd y Prif Weinidog gael ei diddymu.

Mae’r Arlywydd wedi cael ei gyhuddo gan ei wrthwynebwyr o symud y wlad tuag at unbennaeth.