Mae arweinwyr nifer o wledydd Ewropeaidd wedi dod ynghyd ym Mrwsel ar gyfer trafodaethau anffurfiol yn dilyna anghydweld tros eu polisïau ar ffoaduriaid.

Fe fydd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel yn arwain yr ymdrechion i geisio datrysiad ar y cyd i’r llu o ffoaduriaid sy’n cyrraedd gwledydd Ewrop.

Mae’r gwledydd yng anghydweld ynghylch pwy ddylai gymryd cyfrifoldeb am y ffoaduriaid unwaith maen nhw wedi llwyddo i gyrraedd y lan yn Ewrop, am ba hyd y dylen nhw gael aros a beth ddylid ei wneud i gefnogi gwledydd sy’n wynebu argyfwng, gan gynnwys yr Eidal a Groeg.

Yn ogystal â phrif wledydd Ewrop, mae nifer o wledydd bychain y cyfandir wedi mynnu bod yn rhan o’r trafodaethau.

Ond mae gwledydd eraill, gan gynnwys y Weriniaeth Tsiec, Hwngari, Gwlad Pwyl a Slofacia wedi gwrthod cymryd rhan am eu bod yn gwrthod derbyn ffoaduriaid.

Ar hyn o bryd, mae ffrae fawr rhwng yr Eidal, Melita a Ffrainc ynghylch pwy ddylai gymryd cyfrifoldeb am 630 o ffoaduriaid a gafodd eu hachub o’r môr oddi ar arfordir Libya. Yn dilyn y ffrae, cytunodd Sbaen i’w derbyn i’r wlad.