Mae myfyrwyr o Lydaw yn wynebu’r perygl o fethu eu harholiadau BAC ar ôl iddyn nhw benderfynu ateb y cwestiynau yn yr iaith Lydaweg.

Roedd y myfyrwyr ysgol uwchradd Diwan de Carhaix yn Finistère yn sefyll arholiad mathemateg pan benderfynon nhw na fydden nhw’n ateb y cwestiynau yn Ffrangeg, yn ôl y papur newydd Ouest-France.

Maen nhw’n cael eu haddysgu yn yr iaith Lydaweg.

Yn ôl un o’r myfyrwyr, Ismael Morvan, maen nhw wedi cael eu gwahardd rhag defnyddio’u hiaith eu hunain heb unrhyw ymgais i egluro pam.

Bellach, mae oddeutu 15 o’i gyfoedion wedi dilyn ei esiampl drwy wrthod ufuddhau i’r gwaharddiad.

Dywedodd: “Rydym yn wynebu’r risg o gael ’dim’, y risg o beidio â chael ein bagloriaeth.

“Ond rydym yn cymryd y risg yn enw’r achos. Y peth pwysig oedd fod ein rhieni’n gwybod gan mai nhw sy’n talu am ein hastudiaethau.”

‘Nid gweithred wrthryfelgar mohoni’

Ond o wneud eu safiad, mae’r myfyrwyr yn mynnu nad gwrthryfela oedd eu bwriad.

Ychwanegodd Ismael Morvan: “Nid gweithred wrthryfelgar mohoni ond yn hytrach, gweithgarwch meddylgar.”

Dywed y myfyrwyr eu bod nhw wedi cael eu hysbrydoli gan fyfyrwyr yng Ngwlad y Basg, sydd yn cael ateb yn yr iaith Fasgeg wrth sefyll arholiadau hanes a daearyddiaeth ers y 1990au, ac mewn arholiadau mathemateg ers 2012.

Maen nhw bellach yn galw am yr hawl i sefyll pob arholiad yn eu mamiaith.