Mae menywod yn Sawdi Arabia yn gyrru am y tro cyntaf heddiw ar ôl i waharddiad ddod i ben yn dilyn ymgyrch sydd wedi para degawdau.

Fe ddaeth y gwaharddiad i ben am ganol nos.

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw ers tri degawd am roi’r hawl i fenywod yrru – a dynion yn eu plith.

Cyn i’r gwaharddiad ddod i ben, gallai menywod gael eu harestio am ei anwybyddu.

Cafodd ymgyrch ei sefydlu yn 1990 i wyrdroi’r gwaharddiad, ac fe gafodd menywod oedd wedi gyrru bryd hynny fel rhan o’r brotest eu diswyddo a’u gwahardd rhag teithio dramor am flwyddyn.

Gwrthwynebiad

Yn ôl y rhai oedd yn gwrthwynebu rhoi’r hawl i fenywod yrru, byddai rhoi’r hawl iddyn nhw’n arwain at bechod ac yn agor menywod i fyny i aflonyddwch.

Ar drothwy’r tro pedol ar y gwaharddiad, cafodd deddfwriaeth ei phasio yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon aflonyddu ar fenywod yn rhywiol, gyda chosb o hyd at bum mlynedd dan glo am dorri’r gyfraith.

Ers i’r brenin Salman gyhoeddi’r tro pedol y llynedd, mae’r achosion o aflonyddu rhywiol yn y wlad wedi lleihau.

Bellach, mae gwersi’n cael eu cynnig i fenywod a rhai yn gorfod aros misoedd oherwydd y galw.