Mae ail berson wedi marw yn dilyn ffrwydrad yn Ethiopia ddydd Sadwrn.

Fe ddigwyddodd wrth i brif weinidog newydd y wlad, Abiy Ahmed annerch rali yn y brifddinas Addis Ababa.

Cafodd mwy na 150 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad, ac mae nifer ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae adroddiadau bod naw o blismyn wedi cael eu harestio ac yn eu plith mae dirprwy bennaeth comisiwn heddlu’r brifddinas.

Yn ôl llygad-dystion, fe geisiodd dyn yn y dorf daflu ffrwydryn i gyfeiriad y prif weinidog ond fe gafodd ei atal gan bobol o’i amgylch.