Mae Melania Trump, gwraig Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi bod yn ymweld â chanolfan i blant lle mae rhai o’r 2,300 o blant ffoaduriaid wedi cael eu hanfon.

Fe ymwelodd Melania Trump â’r ganolfan yn Tecsas ddoe (dydd Iau, Mehefin 21), sef diwrnod ar ôl i’w gŵr arwyddo gorchymyn a oedd yn rhoi’r gorau i’r arfer o wahanu teuluoedd.

Er hyn, mae’r polisi o erlyn pobol sy’n croesi’r ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico yn parhau.

Dywedodd llefarydd ar ran Melania Trump ddoe ei bod hi’n “casáu” gweld teuluoedd yn cael eu gwahanu ger y ffin.

Mae adroddiadau o’r Tŷ Gwyn hefyd yn dweud ei bod hi ymhlith y rhai wnaeth berswadio Donald Trump i weithredu ar y mater.

Wrth iddi deithio i Tecsas, roedd Melania Trump wedi achosi cynnwrf ar Twitter am ei bod yn gwisgo siaced gyda’r geiriau “I really don’t care, do u?” ar y cefn mewn steil graffiti. Mae’r siaced yn dod o siop Zara a dywedodd llefarydd ar ei rhan nad oedd unrhyw “neges gudd” y tu ôl i’w phenderfyniad i’w gwisgo.