Mae un o drefnwyr y rali asgell-dde enwog a gafodd ei gynnal yn Charlottesville yn Virginia y llynedd, wedi cael yr hawl i gynnal digwyddiad tebyg yn Washington DC.

Mae Gwasanaeth y Parc Cenedlaethol yn yr Unol Daleithiau wedi rhoi caniatâd i gais ar gyfer rali’r ‘Uno’r Chwith’ i gael ei gynnal y tu allan i’r Tŷ Gwyn ym mis Awst.

Mae’r trefnydd Jason Kessler yn disgrifio’r digwyddiad fel rali ‘hawliau dynol gwyn’.

Daw hyn ar ôl i Charlottesville wrthod cais ganddo i gynnal y cyfarfod yn y ddinas eleni eto, a hynny ar ôl i ddynes gael ei lladd a bron 40 eu hanafu y llynedd.

Mae Jason Kessler yn amcangyfrif y bydd tua 400 yn ymuno ag ef yn Washington.