Mae protestwyr wedi bod yn gwrthdystio yn Rwmania yn erbyn llygredd oddi fewn i’r llywodraeth.

Mae gwrthdystiadau wedi’u cynnal y tu fewn i adeilad senedd y wlad, ger swyddfa arweinydd y Democratiaid Cymdeithasol, Liviu Dragnea.

Y Democratiaid Cymdeithasol yw prif blaid y senedd, ond does dim modd i Liviu Dragnea fod yn Brif Weinidog oherwydd ei fod wedi’i farnu’n euog o dwyll etholiadol.

Mae disgwyl dyfarniad llys mewn achos arall – achos o gamymddwyn – yn ei erbyn y ffigwr yn ddiweddarach.

“Maffiosi” a “lladron” yw rhai o’r geiriau sydd wedi’u defnyddio gan brotestwyr am eu haelodau etholedig.