Yn dilyn beirniadaeth gynyddol yn America o bolisi Donald Trump ar fewnfudo, mae’n ymddangos bod yna awydd o fewn y blaid Weriniaethol – ei blaid ei hun – i newid trywydd.

Dan bolisi presennol yr Arlywydd, mae pawb sydd yn croesi ffin yr Unol Daleithiau yn anghyfreithlon yn medru cael ei herlyn.

Ac mae hyn yn golygu bod plant yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, gan fod plant ac oedolion yn cael eu cadw mewn dalfeydd gwahanol.

Bellach mae wedi dod i’r amlwg bod gweriniaethwyr yn nwy siambr Cyngres yr Unol Daleithiau yn bwriadu newid y rheol hon.

Yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr a’r Senedd, mae aelodau gweriniaethol yn awyddus i basio deddfwriaeth a fydd yn caniatáu i deuluoedd aros â’i gilydd mewn canolfannau penodedig.

Yn ôl y Seneddwr Democrataidd, Chuck Schumer, mae’r mwyafrif o Americaniaid yn erbyn y drefn sydd ohoni, a daw’r newid trywydd gan fod y Gweriniaethwyr yn “teimlo pwysau’r mater”.