Mae 178 o bobl ar goll ar ôl i gwch suddo ar lyn poblogaidd ar ynys Sumatra yn Indonesia nos Lun.

Dim ond 18 o bobl sydd wedi cael eu darganfod wedi goroesi’r trychineb.

Roedd y tywydd yn ddrwg a’r cwch pren yn orlawn o deithwyr a beiciau modur, ac mae’n bosibl fod llawer o’r cyrff yn dal ynddo.

Yn ôl adroddiadau, llai na hanner y bobl a oedd wedi neidio i’r dŵr cyn i’r cwch suddo.

Mae llyn Toba, sy’n 440 milltir sgwâr ac wedi’i ffurfio o hen losgfynydd, yn gyrchfan boblogaidd ar yr ynys.