Mi fydd pobol sy’n byw yn Llundain yn gorfod wynebu llifogydd a diffyg trydan erbyn y flwyddyn 2050, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r ymchwil wedi’i baratoi gan wahanol sefydliadau amgylcheddol a threfol, gan gynnwys C40 Cities, sef grŵp o ddinasoedd ledled y byd sydd am wella’r amgylchedd cyn ei bod yn rhy hwyr.

Yn ôl yr adroddiad, mi fydd biliynau o bobol sy’n byw yn rhai o ddinasoedd mwyaf y byd erbyn canol y ganrif hon yn gorfod wynebu’r effeithiau sy’n deillio o newid yr hinsawdd.

Y ffigyrau

O ran prif ffigyrau’r adroddiad, mae arbenigwyr yn credu y bydd y newid yn yr hinsawdd yn bygwth:

 

  • 800m o bobol mewn dinasoedd oherwydd cynnydd lefel y môr, gan gynnwys 30m yn Ewrop;
  • 650m o bobol oherwydd prinder dŵr, gan gynnwys dinasoedd fel Athen a Madrid;
  • 5bn oherwydd prinder bwyd, yn enwedig Barcelona, Moscow ac Oslo.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod 70% o ddinasoedd ledled y byd eisoes yn gorfod delio ag effeithiau newid yr hinsawdd.

Tystiolaeth glir

“Ers degawdau, mae gwyddonwyr wedi ein rhybuddio am y bygythiadau y bydd newid yn yr hinsawdd yn eu creu o ganlyniad i gynnydd yn nhymheredd y byd, cynnydd mewn lefel y môr, mwy o anghydraddoldeb, ynghyd â phrinder dŵr, bwyd ac ynni,” meddai Mark Watts, Prif Weithredwr C40 Cities.

“Erbyn hyn mae gennym ni dystiolaeth glir o beth fydd yr effeithiau hyn yn eu golygu i drigolion dinasoedd y byd.”