Mae Donald Trump wedi bygwth gosod rhagor o dariffau ar fewnforion o Tsieina i America, gan wthio’r ddwy wlad yn agosach at ryfel fasnach.

Mae’r Arlywydd eisoes wedi gorchymyn tariffau ar werth £38bn o nwyddau o Tsieina, gan gyhuddo’r wlad o ddwyn ‘eiddo deallusol’ – ‘intellectual property’.

A dan y cynlluniau diweddara’ gallai gwerth £150bn o fewnforion wynebu tariffau o 10%.

“Dyw Tsieina ddim i weld yn awyddus i newid eu hymddygiad annheg o gipio eiddo deallusol a thechnoleg Americanaidd,” meddai Donald Trump wrth gyhoeddi’r tariffau.

“… Bydd y tariffau yma yn dod i rym os fydd Tsieina yn gwrthod newid eu hymddygiad, a hefyd os byddan nhw’n mynnu bwrw ati â thariffiau [yn ein herbyn ni].”

Mae Gweinyddiaeth Masnach Tsieina wedi ymateb trwy alw’r sefyllfa yn “flacmel” a’n “siom i’r gymuned ryngwladol”.