Mae rhai o gefnogwyr Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi rhoi tan ddiwedd y mis iddi ddod i gytundeb â gwledydd eraill ynglŷn â ffoaduriaid y wlad.

Yn ystod yr wythnos ddiwetha’ mae ffrae wedi datblygu rhwng Gweinidog Cartref yr Almaen, Horst Seehofer ac Angela Merkel ynglŷn â pholisi mewnfudo’r Llywodraeth.

Mae Horst Seehofer wedi bod yn galw ar y Llywodraeth i symud ffoaduriaid, sydd wedi’u cofrestru mewn gwledydd eraill o fewn yr Undeb Ewropeaidd, o’r Almaen.

Ond mae Angela Merkel wedi gwrthod gweithredu’n syth, gan ddadlau y byddai’r cam hwn yn rhoi gwledydd fel yr Eidal a Gwlad Groeg o dan bwysau, gan wanhau’r Undeb Ewropeaidd.

Pethau’n poethi

Horst Seehofer yw arweinydd yr Undeb Gymdeithasol Gristnogol (CSU), plaid sydd yn bodoli yn rhanbarth Bafaria yn unig ac sy’n perthyn i’r Undeb Ddemocrataidd Gristnogol, sef plaid Angela Merkel.

Mae’r CSU yn awyddus i fod yn gadarn ar y mater o fewnfudo, gan ddadlau mai dyma’r ffordd i danseilio’r gefnogaeth i bleidiau asgell-dde yn yr Almaen.

Ac mewn cyfarfod rhwng arweinwyr y CSU ym Munich, mae’r blaid wedi penderfynu cefnogi galwad Hors Seehofer tan ddiwedd y mis er mwyn i Angela Merkel ddatrys y broblem.

Mae hynny’n golygu mai dim ond pythefnos sydd ganddi i gynnal trafodaethau ag aelodau eraill o’r Undeb Ewropeaidd.