Mae o leiaf dri o bobol wedi’u lladd yn dilyn daeargryn grymus yn Japan ac mae dwsinau wedi’u hanafu.
Mae’r daeargryn wedi achosi difrod i adeiladau o gwmpas Osaka yng ngorllewin Japan.
Yn ôl y gwasanaeth tan yno roedd mwy na 210 o bobol yn Osaka wedi’u hanafu ar ôl i waliau ddymchwel.
Roedd y daeargryn yn mesur 6.1 ac i’w deimlo mewn rhannau eraill o orllewin Japan gan gynnwys Kyoto.