Mae un person wedi marw ac 20 yn rhagor wedi’u hanafu yn dilyn achos o saethu yn nhalaith New Jersey yn yr Unol Daleithiau.
Un o’r saethwyr honedig – dyn 33 oed – yw’r dyn sydd wedi marw, yn ôl yr awdurdodau, ac mae’r gweddill wedi derbyn triniaeth am glwyfau yn dilyn y digwyddiad fore heddiw.
Ymhlith y rhai a gafodd eu hanafu mae bachgen 13 oed, un o bedwar o bobol sydd mewn cyflwr difrifol.
Mae lle i gredu bod dau saethwr wedi targedu gŵyl gelfyddydau leol.
Mae’r ail saethwr honedig yn y ddalfa.
Roedd tua 1,000 o bobol yn yr ardal ar adeg y digwyddiad.