Mae dynes oedd yn bloeddio “Allahu akbar” wedi anafu dau o bobol mewn archfarchnad yn ne Ffrainc, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu bod un o gwsmeriaid yr archfarchnad yn La Seyne-sur-Mer yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau.

Cafodd dynes arall fan anafiadau hefyd.

Yn ôl gorsaf radio, mae’r ddynes sy’n cael ei hamau o’r ymosodiad yn cael ei holi yn y ddalfa.